Isabel ParryJONESYn dawel ar ddydd Gwener 14eg o Dachwedd 2025 yng nghartref preswyl Min y Mor, Aberaeron yng nghwmni ei theulu hunodd Isabel, Talar Wen, Cae Martha, Llanarth. Gwraig ymroddgar y diweddar Egryn, mam annwyl Janice, mam yng nghyfraith parchus Owen, mamgu dyner Sian, Nia, Carys, Dylan, Martin a Carwyn, Nana balch i Ela, Lisa, Twm ac Osian. Gwasanaeth angladdol cyhoeddus yng nghapel Pencae, Llanarth ar ddydd Sadwrn 29ain o Dachwedd am 11 o'r bore. Blodau teulu yn unig ond rhoddion os dymuni'r tuag at 'Ysgol Sul Pencae, Llanarth ' trwy law:- Alan Edwards, Trefnwr Angladdau D Edwards a'i fab, Awel Enlli, Dihewyd, Llanbedr Pont Steffan, Ceredigion, SA48 7PN, Ffôn 01570470289/ Ffôn symudol 07802780519.
Keep me informed of updates